HSC(4)-17-12 papur 4
At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Gwasanaeth y Pwyllgorau
Dyddiad y cyfarfod: 14 Mehefin
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd hyd at doriad yr hâf 2012.
3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
DYDD IAU 14 MEHEFIN 2012 – CYFARFOD ALLANOL YM MHRIFYSGOL GLYNDWR, WRECSAM
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiynnau dystiolaeth lafar – darparwyr gofal preswyl preifat
DYDD MERCHER 20 MEHEFIN 2012
Bore yn unig
Blaenraglen Waith
Trafodaeth Pwyllgor ar fusnes ar gyfer tymhorau’r hydref a’r gaeaf
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar – Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Sesiwn dystiolaeth lafar – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
DYDD IAU 28 MEHEFIN 2012
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad un-dydd: Marw-enedigaethau yng Nghymru
Sesiynnau tystiolaeth lafar
DYDD MERCHER 4 GORFFENNAF 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Ystyried y materion allweddol (preifat)
Sesiwn graffu cyffredinol
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
DYDD IAU 12 GORFFENNAF 2012
Bore a phrynhawn
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Sesiynnau dystiolaeth lafar
DYDD MERCHER 18 GORFFENNAF 2012
Bore yn unig
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Sesiynnau tystiolaeth lafar a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ystyried y materion allweddol (preifat)
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Ystyried y materion allweddol (preifat)
Dydd Llun 23 Gorffennaf – Dydd Sul 22 Medi 2012: Toriad yr haf